Rydym yn eich gwahodd chi i wneud sylwadau ar y cynllun drafft a'r weledigaeth sy’n cael ei chyflwyno ar gyfer eich tref
Fel rhan o Fenter Deg Tref Sir Cyngor Sir Gaerfyrddin, rydym yn cefnogi adferiad a thwf economaidd trefi gwledig ar draws y sir. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned fusnes leol, Cynghorau Tref a rhanddeiliaid lleol i baratoi cynllun i arwain buddsoddiad a chefnogi twf cynaliadwy a chynhwysol ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.

Mae busnesau lleol wedi bod yn cyfrannu eu syniadau a’u barn ers diwedd 2020, ac mae’r rhain wedi helpu gyda drafftio fersiwn gychwynnol y cynllun. Yn dilyn ymgynghoriad a busnesau a thrigolion lleol, rydym yn llunio cynllun drafft. Bydd y cynllun drafft ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Pam ydym ni’n gwneud hyn?
Mae effeithiau economaidd Coronafeirws yn gwbl eithriadol na phrofwyd erioed o’r blaen gan ein cenhedlaeth. Mae’r effeithiau hyn yn negyddol yn bennaf i’r economi leol, ond mae rhai pethau cadarnhaol, gyda chymunedau’n dod yn nes at gilydd a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n gwirioneddol gyfrif, ac yn fwy parod i weithredu’n gynaliadwy a chefnogi eu tref a’u heconomi leol.

Cyn y pandemig COVID-19, roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi lansio Menter y Deg Tref i gefnogi twf a gwydnwch trefi gwledig ar draws y Sir. Y nod oedd datblygu gweledigaeth strategol hirdymor ar gyfer pob tref i gefnogi twf economaidd ac annog canolfannau mwy bywiog ac economaidd gynaliadwy. Rhoddwyd pwyslais newydd ar y fenter hon yng ngoleuni’r pandemig, i geisio adferiad economaidd ar unwaith yn ogystal ag adeiladu ar gyfer twf mwy hirdymor.


Pa gymorth sydd ar gael?
Mewn ymateb i COVID-19, mae’r Cyngor Sir wedi neilltuo adnoddau sylfaenol i gefnogi adferiad a thwf trefi gwledig. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhaglen Leader yr RDP, bydd amrywiaeth o fentrau newydd a mathau o gymorth busnes yn dod ar gael.

Mae’r cynllun adfer a thwf yn bwysig oherwydd maent yn darparu’r dystiolaeth o’r anghenion lleol ac yn adnabod yr amrywiaeth o gyfleoedd y gallai’r cronfeydd a’r adnoddau newydd hyn helpu eu cyflawni, sy’n cynnwys:
  • Penodi Swyddogion Trefi Marchnad a fydd yn gweithio gyda’r trefi i symud ymlaen gyda chamau gweithredu a nodwyd yn y cynlluniau adferiad a thwf economaidd.
  • Cyllid sbarduno newydd i helpu timau cynllun twf y dref i ddatblygu atebion arloesol i ddiwallu eu hanghenion ar hyn o bryd ac uchelgeisiau o ran twf yn y dyfodol.
  • Potensial am gyllid cyfalaf newydd i gefnogi syniadau a nodwyd yn y cynlluniau adferiad a thwf a hefyd i gefnogi datblygiad lleoedd sydd ag angen mawr amdanynt i gychwyn a thyfu cyflogaeth
  • Cronfeydd Grantiau Busnes Cyngor Sir Gaerfyrddin – cyfleoedd i fusnesau geisio am gymorth uniongyrchol trwy’r Gronfa Mentro Gwledig, y Gronfa Datblygu Trawsffurfiannol Eiddo Masnachol, y Gronfa Cychwyn Busnesau a’r Gronfa Twf Busnesau
  • Atebion digidol i drefi – cyfres o fentrau i helpu busnesau a chymunedau i gael cysylltedd rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy, ac addasu, gan gynnwys cyfres o weminarau i helpu adeiladu busnes llwyddiannus ar-lein a gweithredu trefi digidol clyfar (‘SMART’).
  • Seilwaith addas ar gyfer Beiciau gan gynnwys darparu lleoedd storio beiciau mewn lleoedd allweddol gan gynnwys mannau cyfnewid trafnidiaeth gyhoeddus ac archwilio’r potensial i gyflwyno codi tâl E-feiciau
  • Mae cyllid wedi cael ei sicrhau ar gyfer marchnata lleol/cymeriad unigryw gan gynnwys deunydd hyrwyddo brand, cynnwys wedi’i baratoi ar gyfer cyfryngau cymdeithasol i bob tref
  • Cynlluniau ynni lleol – bydd Ynni Sir Gâr Cyf yn helpu cymunedau i adnabod ac archwilio safloedd posibl ar gyfer cynhyrchu ynni o’r newydd.

Pa fath o Gynllun?
Mae’r cynllun yn seiliedig ar egwyddorion cyd-lunio ac annog busnesau, cymunedau a rhanddeiliaid lleol i barhau i gymryd rhan o gychwyn ei ddatblygiad. Bydd y gweithredu’n canolbwyntio ar gyd-weledigaeth ar gyfer y dref a’r ardal wledig o’i chwmpas, a hynny wedi’i gefnogi gan gyd-flaenoriaethau a chanlyniadau.

Mae’r cynllun hefyd yn gydweithrediad rhwng yr holl randdeiliaid: busnesau, awdurdodau lleol a’r gymuned; penderfynwyr a chyrff gweithredu. Mantais y dull hwn yw cynllun mwy cydlynus ac ymatebol yn lleol.

Gyda hyn mewn cof, bydd y cynllun yn helpu cydgysylltu a thargedu’r adnoddau sydd ar gael i gynnwys graddfa’r dirwasgiad a ysgogwyd gan y pandemig, a sbarduno galw a hyder, gan sicrhau y gellir adfer yr economi leol cyn gyflymed â phosibl.

Mae’r cynllun hefyd yn ceisio cefnogi pob math a maint o fusnes, boed yn gyflogwyr lleol mawr, diwydiant traddodiadol, busnesau canol tref neu wledig neu dwristaidd. Mae hefyd yn gynllun i annog busnesau a busnesau sy’n cychwyn o’r newydd.
Dewiswch un o’r dewisiadau isod i wybod mwy ac i roi adborth
Llinell Amser
Trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol, archwilio cyfleoedd cyllido newyddMehefin - Tachwedd 2021
Cynllun ac Ymgynghoriad DrafftRhagfyr - Ionawr 2022
Cynllun TerfynolMawrth 2022
Rhannwch y dudalen hon


Engagement platform powered by Participatr on behalf of Owen Davies Consulting

Privacy and cookie policy // Website terms of use // Accessibility statement